Buddsoddi 1.8 miliwn i ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol heb ei ail yng Nghymru
Buddsoddi 1.8 miliwn i ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol heb ei ail yng Nghymru
Adnodd newydd - Blwyddyn Gyntaf fel Rheolwr mewn Blynyddoedd Cynnar: Canllaw Ymarfer
Adnodd newydd - Blwyddyn Gyntaf fel Rheolwr mewn Blynyddoedd Cynnar: Canllaw Ymarfer
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2013!
Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Gofal Cymdeithasol 2013!
Canllaw yn arwain y ffordd at yrfa werth gofalu amdani
Canllaw yn arwain y ffordd at yrfa werth gofalu amdani
Ymgynghoriad ar y rhestr gymwysterau i'r blynyddoedd cynnar a gofal plant - cyfle i ddweud eich dweud!
Ymgynghoriad ar y rhestr gymwysterau i'r blynyddoedd cynnar a gofal plant - cyfle i ddweud eich dweud!
Lansio gwasanaethau cofrestru arlein
Lansio gwasanaethau cofrestru arlein
Fideo newydd yn egluro sut y cynhelir gwrandawiad ymddygiad
Fideo newydd yn egluro sut y cynhelir gwrandawiad ymddygiad
Nodyn i atgoffa Rheolwyr Gofal Cartref - cofrestrwch o 28 Chwefror
Nodyn i atgoffa Rheolwyr Gofal Cartref - cofrestrwch o 28 Chwefror
  • Croeso
  • Newyddion
  • Newyddion o’r Sector
  • Digwyddiadau
  • Gwrandawiadau
  • Llyfrgell

Croeso i wefan y Cyngor Gofal, sydd yn rheoleiddio’r proffesiwn gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod dyletswydd arnom i ddiogelu’r cyhoedd drwy hyrwyddo a sicrhau safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymysg gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae’r Cyngor Gofal hefyd yn hyrwyddo’r safonau uchel yma o ymarfer a phroffesiynoldeb drwy gynllunio ar gyfer y gweithlu, datblygu’r gweithlu, cymwysterau, rhannu gwybodaeth a chynhyrchu canllawiau ymarfer da ar gyfer gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae’r Cyngor Gofal yn cynnal gwrandawiadau preifat a chyhoeddus i ystyried cyhuddiadau o gamymddwyn yn erbyn unigolyn cofrestredig, lle mae’r unigolyn cofrestredig wedi methu cyrraedd y safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer fel y pennir yn y Codau Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Gallwch chwilio am fanylion gwrandawiadau cyhoeddus os hoffech fynychu un, a hefyd darllen canlyniadau a rhesymau gwrandawiadau cyhoeddus blaenorol. Mae’r adran Gwrandawiadau hefyd yn egluro aelodaeth, cyfansoddiad a rôl pob Pwyllgor.

Defnyddiwch y Llyfrgell ar wefan Cyngor Gofal Cymru.

Mae’r Llyfrgell yn rhestru cyhoeddiadau ac adnoddau a gynhyrchwyd gan y sefydliad. Mae cyfleuster chwilio yn caniatáu i chi chwilio yn ôl allweddair neu yn nhrefn yr wyddor a gallwch hefyd chwilio o fewn categorïau penodol fel Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) a Fframwaith Credydau a Chymwysterau (FfCCh).