Digwyddiadau 2012

21 Awst 2012 - 23rd Awst 2012

Yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14-19 yng Nghymru - Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Yn ôl

Mae'r ymgynghoriad pwysig hwn yn rhan o adolygiad Llywodraeth Cymru pwysig o gymwysterau ar draws Cymru sy'n ymestyn dros 31 Mai - 1 Medi 2012. Y pwrpas yw sicrhau bod y cymwysterau a ddilynir gan bobl ifanc yn:

  1. cael eu gwerthfawrogi gan bobl ifanc; sy’n cyffroi ac sy’n rhoi opsiynau iddynt allu symud ymlaen at addysg neu gyflogaeth bellach
  2. berthnasol i gyflogwyr a’r economi ac sy’n cynnig sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sydd eu hangen a gwerthfawrogwyd gan gyflogwyr

Y mae hefyd yn edrych ar gymwysterau galwedigaethol a’u perthnasedd a gwerth.

Darllenwch yr adroddiad http://wales.gov.uk/consultations/education/roq/?skip=1&lang=cy

Er mwyn sicrhau bod llais y sector yn cael ei glywed, mae Cyngor Gofal Cymru yn gofyn am eich help. Mae hwn yn gyfle i sicrhau bod cymwysterau newydd sy’n ymddangos neu sydd yn cael eu datblygu ar gyfer y sector yn arwain y ffordd o fewn yr amgylchedd cymwysterau newydd. Dewch i’n digwyddiadau ym mis Awst er mwyn dweud eich dweud ac er mwyn sicrhau bod anghenion y sector gofal a blynyddoedd cynnar yn cael eu cynnwys yn yr ymateb ffurfiol.

Digwyddiad De Cymru > 21ain o Awst 2012, Radisson Blu, Caerdydd - 1pm – 4pm

Digwyddiad Gogledd Cymru > 23ain o Awst 2012, Optic, Llanelwy - 1pm – 4pm

 

I gael gwybodaeth archebu, cysylltwch â llian.morris@ccwales.org.uk.

 

 

Â