Rheolwr Gofal Preswyl i Blant

Rheolwr Gofal Plant Preswyl

Gwasanaethau ar-lein newydd i weithwyr cofrestredig

Mae’r Cyngor Gofal wedi lansio gwasanaethau ar-lein newydd i’r rheiny sydd wedi cofrestru, gweithwyr sy’n gwneud cais i gofrestru a chyflogwyr gofal cymdeithasol. Mae’r gwasanaethau ar gael drwy’r opsiwn EichCyngorGofal ar y wefan. Yn y treialon, dywedodd defnyddwyr bod y system newydd yn ‘ddefnyddiol iawn ac yn hygyrch iawn’, yn ‘hawdd ei defnyddio a diogel iawn’.

Darllen mwy am y gwasanaethau ar-lein newydd

EichCyngorGofal i Reolwyr

Gwaith o broffesiynoli

Y llynedd, cyhoeddwyd papur polisi Llywodraeth Cymru, Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu, ac ynddo, mae'n nodi "Credwn fod ansawdd gweithwyr proffesiynol a'u proffesiynoldeb yn hollol ganolog i greu gwasanaethau cymdeithasol sy'n ymateb i anghenion ac sy'n gynaliadwy... Rydym wedi dechrau'r gwaith o broffesiynoli ar gyfer rheolwyr gofal preswyl i blant... dymunwn ymestyn ac ehangu'r dull hwn."

Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu

Mae'r Cyngor Gofal eisoes wedi cychwyn y gwaith yma, gan fynd i'r afael â rhaglen waith ar gyfer datblygiad proffesiynol rheolwyr gofal preswyl i blant, a sicrhau bod y rheolwyr hynny'n cymryd rhan yn y datblygiad yma. Cychwynnodd y gwaith yma gyda'r Fforymau i Reolwyr a gynhaliwyd yn yr hydref y llynedd. Rydym wrthi'n trefnu fforymau eraill yn awr ble bydd cyfle i rannu eich barn a'ch profiadau, a hynny gyda chyd weithwyr ar lefel proffesiynol a gyda'r Cyngor Gofal. Cadwch lygad am wahoddiad drwy e-bost neu drwy'r post. Roedd y fforymau hyn yn boblogaidd, felly gobeithiwn bydd llawer ohonoch yn bachu ar y cyfle am drafodaeth a sgwrs bellach.

Cynhadledd Genedlaethol, Gofal Preswyl Plant - Dewis Cadarnhaol, Ebrill 2012

Ym mis Ebrill, trefnodd Cyngor Gofal Cymru a Fforwm Gofal Cymru y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar ofal preswyl plant ers ymchwiliad Waterhouse yn hwyr yn yr 1990au a chyhoeddi ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’ y llynedd.

Cylchlythyr Gofal Preswyl Plant - Dewis Cadarnhaol, Ebrill 2012

Goruchwylio ac Arfarnu Da

Mae'r llyfryn hwn wedi cael ei gynhyrchu er mwyn darparu canllawiau ymarferol, esboniadau, syniadau ac enghreifftiau i bawb sy'n gyfrifol am oruchwylio ac arfarnu gweithwyr ym maes Gofal Cymdeithasol.

Goruchwylio ac Arfarnu Da