Y Codau Ymarfer

Beth yw'r Côd?

Mae'r Côd Ymarfer yn rhestr o ddatganiadau sy’n disgrifio y safonau o ymddygiad proffesiynol disgwylir gan staff cyflogedig wrth iddynt fwrw ati â'u gwaith beunyddiol. Dyma'r tro cyntaf i safonau o'r fath gael eu pennu yn genedlaethol, er bod rhai safonau yn eisoes yn bodoli I gyflogwyr ar lefel lleol.

Bwriad y Côd yw i adlewyrchu ymarfer da presennol a disgwylir y bydd gweithwyr a chyflogwyr yn cydnabod yn y Côd y safonau cytûn y maen nhw eisoes yn cyrchu atynt. Mae'r Cyngor Gofal yn hyrwyddo'r safonau hyn trwy ddosbarthu'r Côd yn eang.

Sut ddefnyddir y Codau?

Mae'r Côd yn gam allweddol i reoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r Cyngor Gofal yn gyfrifol am gofrestru pawb sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r gofrestr yn gofnod cyhoeddus bod y rhai a gofrestrwyd arni wedi bodloni'r gofynion ar gyfer cael eu derbyn i'r Gofrestr ac wedi cytuno i gadw at y safonau a nodir yn y Côd Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol.

Bydd y Cynghorau yn cymryd i ystyriaeth y safonau yn y Côd Ymarfer i Weithwyr Gofal Cymdeithasol wrth ystyried achosion o gamymddwyn ac wrth benderfynu a ddylai gweithiwr cofrestredig aros ar y Gofrestr ai peidio.

Beth fydd y Côd yn ei olygu i chi?

Fel gweithiwr gofal cymdeithasol, bydd gennych feini prawf i arwain eich ymarfer ac i fod yn glir ynghylch pa safonau ymddygiad y disgwylir ichi gadw atynt. Anogir chi i ddefnyddio'r Codau i edrych yn fanwl ar eich ymarfer eich hun ac unrhyw agwedd y gallech ei wella.

Fel cyflogwr gofal cymdeithasol, mi fyddwch yn gwybod pa ran y disgwylir i chi ei chwarae wrth reoleiddio'r gweithlu a chefnogi gofal cymdeithasol o'r ansawdd gorau. Anogir chi i adolygu eich safonau ymarfer a'ch polisïau eich hun yng ngoleuni'r safonau a nodir yn y Côd.

Fel defnyddiwr y gwasanaethau neu aelod o'r cyhoedd, bydd y Côd yn eich helpu i ddeall sut ddylai gweithiwr gofal cymdeithasol ymddwyn tuag atoch a sut ddylai cyflogwyr gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol i wneud eu gwaith yn dda.

Â